Launch of choir’s first album at a special concert on Saturday evening in Penarth

By Glenys Llewelyn 21st Apr 2025

Côr Merched Plastaf is proud to announce the launch of the choir's first album at a special concert on Saturday evening, 26 April 2025, at St Augustine's Church, Penarth at 6.00pm.

Côr Merched Plastaf is a talented choir of young female voices from the three Welsh-medium secondary schools in Cardiff: Plasmawr, Glantaf, and Bro Edern. Under the direction of Caryl Ebenezer, the energetic and ambitious singers love performing and are quickly making a name for themselves in the community and beyond with their unique, rich sound. From traditional songs to classical and contemporary pieces, the new album Annwyl Faria, recorded at St Augustine's Church, Penarth features a wide range of beautiful music, and includes works specially commissioned for the choir by some of Wales's leading composers. The launch concert will be an exciting opportunity to enjoy a live performance of the tracks on the album, as well as special contributions by some of the choir's talented individuals.

The album will be available on all digital platforms and also in CD format, which can be purchased at the concert.

A warm welcome to all!

Free entry, with a voluntary contribution to support the choir's future work.

Mae Côr Merched Plastaf yn hynod falch o gyhoeddi lansiad ei albwm cyntaf mewn cyngerdd arbennig nos Sadwrn, 26 Ebrill 2025, yn Eglwys St Augustine, Penarth am 6.00 yr hwyr. 

Mae Côr Merched Plastaf yn griw brwd o ferched talentog o'r dair ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd, sef Plasmawr, Glantaf a Bro Edern. O dan arweiniad Caryl Ebenezer, mae'r criw egnïol ac uchelgeisiol wrth eu bodd yn perfformio ac yn prysur greu argraff yn y gymuned ac yn ehangach gyda'u sain arbennig, unigryw. O ganeuon traddodiadol i'r clasurol a'r cyfoes, mae'r albwm newydd, Annwyl Faria, a recordiwyd yn Eglwys St Augustine, Penarth yn cynnig amrywiaeth o gerddoriaeth drawiadol sy'n cynnwys nifer o ddarnau wedi eu comisiynu'n arbennig i'r côr gan rai o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw Cymru. Bydd y cyngerdd lansio yn gyfle cyffrous i fwynhau perfformiadau byw o'r traciau ar yr albwm, yn ogystal â chlywed datganiadau arbennig gan rai o unigolion talentog y côr. 

Bydd yr albwm ar gael ar yr holl blatfformau digidol ac hefyd ar ffurf CD, fydd ar gael i'w brynu yn y cyngerdd.  

Croeso cynnes i bawb!

Mynediad am ddim, gyda chyfraniad gwirfoddol i gefnogi gwaith y côr yn y dyfodol.

Share:


Sign-up for our FREE newsletter...

We want to provide penarth with more and more clickbait-free news.