Mae'r Corff Llywodraethol a'r Pennaeth yn awyddus i benodi Dirprwy Bennaeth ysbrydoledig i weithio gyda thîm ymroddgar a phrofiadol o staff er mwyn adeiladu ar y sylfeini cadarn sydd eisoes yn eu lle. Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus angerdd am wella ysgolion ac â'r gallu i wireddu gweledigaeth uchelgeisiol a chynhwysol yr ysgol.
Mae Ysgol Gynradd Gwaelod y Garth yn ysgol hapus ac unigryw sydd ag iddi ymdeimlad cryf iawn o berthyn ac o gymuned. Mae hwn yn gyfle arbennig i ysbrydoli ac arwain cymuned gyfan tra'n anelu at y safonau uchaf posib.